Mae Ë®ÃÛÌÒapp Cymru’n croesawu’r cyhoeddiad yma gan Lywodraeth Cymru ac yn cefnogi’r argymhellion gan y Panel Adolygu Ffyrdd. Yn enwedig, bydd sefydliad Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn cynorthwyo’r gwellhad i opsiynau trafnidiaeth cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig.
![A woman cycling an e-bike in Barry](/media/9986/woman-cycling-e-bike-in-barry-2108w132_e-bike-barry-photojb.jpg?anchor=center&mode=crop&width=730&height=410)
Mae argymhellion y Panel Adolygiad Ffyrdd yn ei wneud yn glir bod angen blaenoriaethu’r trawsnewidiad i ffwrdd o gludiant yng ngheir preifat tuag at drafnidiaeth lesol a chyhoeddus. ©photojB
Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae’n rhaid i ni gyflawni trawsnewidiad yn nhrafnidiaeth, a rydym yn blês i weld Llywodraeth Cymru’n dangos ymrwymiad ac i’w weld yn gwneud y newidiadau angenrheidiol yma i gyflawni Cymru gynaliadwy i bawb.
Rydym yn gwybod taw’r bobl fwyaf bregus a difreintiedig sy’n cyfrannu’r lleiaf ond yn dioddef y mwyaf o’r effeithiau negyddol o draffig yr hewlydd, er enghraifft safon aer gwael, perygl ar yr hewlydd, a .
Mae’r trawsnewidiad yma i ffwrdd o ddibyniaeth ar geir, felly, hefyd yn drawsnewidiad i ffwrdd o arwahaniaethu ac annhegwch, tuag at gymdogaethau gwell, gwyrddach, sy’n fwy diogel i fyw, gweithio a chwarae ynddi ar led Cymru.
Angen gweithrediad ar frys
, efo allyriadau carbon yn aros yn uchel yn gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf wrth i sectorau eraill gweld gostyngiadau.
Mae angen gweithrediad ar frys arnom i gyrraedd erbyn 2030 a 2050.
Mae argymhellion y Panel Adolygiad Ffyrdd yn ei wneud yn glir bod angen blaenoriaethu’r trawsnewidiad i ffwrdd o gludiant yng ngheir preifat tuag at drafnidiaeth lesol a chyhoeddus.
Mae’n hefyd yn eglur bod adeiladu ffyrdd ymhellach yn niweidiol i bobl a’r blaned, ac mae argymhellion y Panel Adolygu Ffyrdd yn ei wneud yn glir bod rhwydwaith trafnidiaeth gyfun a chynaliadwy yn bosib ar gyfer Cymru.
Ìý
Fuddsoddiad penodol a mentrus
Trwy fuddsoddiad penodol a mentrus mewn cynlluniau sy’n arddangos yr effaith cymdeithasol ehangach o foddau o drafnidiaeth gynaliadwy ar gymundodau, dylwn weld yn ymarferol y diwedd i brif gynlluniau adeiladu ffyrdd.
Mae Ë®ÃÛÌÒapp Cymru wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru, y Panel Adolygu Ffyrdd a phob partner i greu bywydau hapusach ac iachach yng Nghymru.
Rydym am barhau i’w wneud yn haws i bobl cerdded, olwyno a beicio, gan gefnogi ymdrechion i gyflawni rhwydwaith trafnidiaeth ddiogel ac iach ar gyfer Cymru.
Ìý