水蜜桃app

Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 24th OCTOBER 2023

Disgyblion o Ogledd Cymru yn codi arian efo taith gerdded ac olwyno noddedig er mwyn prynu fflyd o feiciau addasedig

Cymerodd disgyblion o Ysgol Pendalar, ysgol anghenion dysgu ychwanegol yng Nghaernarfon, rhan yn ddiweddar mewn taith cerdded ac olwyno noddedig i godi arian am fflyd o feiciau addasedig ar gyfer yr ysgol. Gan gydweithio â rhaglen Teithiau Iach 水蜜桃app, mae鈥檙 ysgol wedi dangos ei hymrwymiad at gynhwysiad.

A parent and child from Ysgol Pendalar, Caernarfon, taking part in a sponsored walk and wheel.

Mae cymuned Ysgol Pendalar wedi dod at ei gilydd i godi arian ar gyfer fflyd o feiciau addasedig. Llun gan: Debbie Humprheys/水蜜桃app.

Bu disgyblion Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon yn cymryd rhan yn ddiweddar mewn taith cerdded ac olwyno noddedig y pellter o鈥檜 hysgol i鈥檙 Wyddfa.

Yn cydweithio 芒 th卯m Diogelwch Ffordd Cyngor Gwynedd a rhaglen Teithiau Iach 水蜜桃app, mae鈥檙 ysgol wedi tanlinellu鈥 hymrwymiad at gynhwysiad.

Mae鈥檙 ysgol, sydd wedi bod yn rhan o鈥檙 rhaglen Teithiau Iach a ariannir gan Lywodraeth Cymru ers Medi 2022, wedi pleidio achos cynhwysiad mewn teithio llesol ar gyfer ei ddisgyblion.

Mae gan bob disgybl rhyw lefel o anghenion dysgu ychwanegol, efo disgyblion yn mynychu鈥檙 ysgol o鈥檙 oedran 3 i 19.

Cafodd y disgyblion eu gofyn, pe bai un dymuniad ganddynt, beth fyddai eu dymuniad?

Eu hymateb oedd cael trac addas ar dir yr ysgol i ymarfer sgiliau seiclo a sgwtera鈥檔 ddiogel, a llwybr cyd-ddefnyddio o鈥檙 ysgol i鈥檞 galluogi nhw i ymarfer eu sgiliau yn yr ardal leol.

Dal ar gyfle i wella cynhwysiad

Cafodd taid un o鈥檙 disgyblion y syniad i godi arian er mwyn prynu fflyd o feiciau addasedig i鈥檙 ysgol, gan ddringo鈥檙 Wyddfa.

O ganlyniad, trefnodd yr ysgol taith cerdded ac olwyno o Lanberis ar hyd y ffordd L么n Las Peris.

Cafodd disgyblion, rhieni a gwarchodwyr, yn ogystal 芒 chyn-ddisgyblion, eu gwahodd i gymryd rhan.

Yn dilyn hynny, awgrymodd y Swyddog Teithiau Iach trefnu taith cerdded ac olwyno noddedig yn ystod wythnos llesiant yr ysgol.

Medrodd rhieni, gwarchodwyr, a disgyblion seiclo, cerdded, ac olwyno鈥檙 pellter o鈥檙 Wyddfa i鈥檙 ysgol 鈥 eu cyfanswm presennol yw 拢1,860.

鈥淢ae pob ymweliad i鈥檙 ysgol yma鈥檔 ysbrydoledig, ac mae wynebau hapus y disgyblion yn dweud y cyfan wrth iddynt brofi amrywiaeth o gyfleoedd,鈥 medd Debbie Humphreys, Swyddog Teithiau Iach Gogledd Orllewin Cymru.

Aeth Gwyn Owen ymlaen i drefnu taith cerdded noddedig 鈥 yn lle codi鈥檙 Yr Wyddfa yn unig, bennodd y daith cerdded efo cyfanswm o 拢955 ar 么l iddo fe a th卯m o 12 eraill cyflawni鈥檙 her 15 Cop芒u Cymreig.

Nid yw鈥檙 codi arian wedi gorffen yna chwaith, efo tad un o鈥檙 disgyblion yn mynnu dathlu ei 50fed penblwydd gan seiclo 50 milltir ar feic sefydlog.

I godi arian tuag at brynu beiciau addasedig ar gyfer yr ysgol, mae e鈥檔 ofyn i bobl dyfalu pa mor hir bydd am gymryd gan gyfrannu 拢1 am bob cynnig 鈥 ei gyfanswm hyd yn hyn yw 拢880.

Dangos ymrwymiad go iawn at deithio llesol

Mae鈥檙 ysgol o 120 o ddisgyblion wedi bod yn aelod ymroddedig i raglen Teithiau Iach 水蜜桃app Cymru, ac mae hyn yn ymdrech sy鈥檔 mynd ymlaen i sicrhau gall pawb cymryd rhan mewn teithio llesol.

Ers ymuno 芒鈥檙 rhaglen, mae鈥檙 ysgol wedi cynnal cyfarfodydd cyson efo Pencampwyr Teithiau Iach i drafod sut gall y rhaglen a Gwobr Ysgol Teithio Llesol 水蜜桃app cael eu haddasu er mwyn cynnwys pawb.

Mae Swyddog Teithiau Iach lleol 水蜜桃app Cymru wedi trefnu sesiynau blasu er mwyn i ddisgyblion ieuengaf yr ysgol ceisio defnyddio beiciau balans, diolch i gefnogaeth .

Mae Ysgol Pendalar hefyd wedi cymryd rhan mewn her Stroliwch a Roliwch 水蜜桃app, gan orffen yn ail yn y gorffennol yng nghategori ysgolion cyfun a gan ennill sgwteri i鈥檙 ysgol ar gyfer eu hymdrechion.

Mae staff yr ysgol hefyd wedi derbyn hyfforddiant sgiliau sgwtera gan y Swyddog Teithiau Iach lleol ac maent am dderbyn hyfforddiant beiciau balans yn y tymor newydd.

Diolch i d卯m Diogelwch Ffordd Cyngor Gwynedd, mae鈥檙 disgyblion hefyd wedi cymryd rhan mewn sesiynau sgiliau diogelwch ffordd gan yr awdurdod lleol, yn helpu i鈥檞 paratoi ar gyfer teithio tu allan i鈥檙 ysgol.

A parent and child riding an adaptive bicycle in an indoor setting for Ysgol Pendalar's sponsored walk and wheel.

Mae rhieni, gwarchodwyr, disgyblion, a chyn-ddisgyblion i gyd wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau i godi arian. Llun gan: Debbie Humphreys/水蜜桃app.

鈥淢ae鈥檙 rhaglen Teithiau Iach wedi ein hybu i fod yn fwy ymwybodol o symud a theithio鈥檔 llesol,鈥 dwedodd Iola Jones, Pencampwr Teithiau Iach Ysgol Pendalar.

鈥淢ae鈥檙 disgyblion wedi cael nifer o brofiadau cyffrous ac wedi cymryd rhan a mwynhau pob cyfle.鈥

鈥淐awsom wasanaeth uwchradd, wedi鈥 baratoi gan ein Swyddog Teithiau Iach, ac roedd yr ymateb yn wych, o safbwynt adnabod llawer iawn o bethau gallwn ni ei wneud i deithio鈥檔 llesol adref ac yn yr ysgol.鈥

鈥淢ae effaith cymryd rhan yn y gweithgareddau llesol yn yr ysgol yn amlwg ar y plant, wrth eu gweld yn mwynhau bod yn actif wrth ddysgu sgiliau newydd.鈥

Partneriaethau o dan ddatblygiad yn chwarae r么l hanfodol

Mae鈥檙 ysgol hefyd wedi bod yn gweithio i ddatblygu a chryfhau partneriaeth 芒 , cangen o鈥檙 fenter gymdeithasol Antur Waunfawr sydd wedi鈥 leoli yng Ngwynedd.

Mae鈥檙 cydweithrediad rhwng Ysgol Pendalar a Beics Antur dros y flwyddyn ddiwethaf wedi arwain at ddisgyblion yn mwynhau sesiynau dysgu seiclo wythnosol ar dir yr ysgol ac ar ffordd seiclo leol yng Nghaernarfon.

Diolch i鈥檙 amrediad o feiciau sydd ar gael gan Feics Antur, mae鈥檔 gyfle euraidd i ddisgyblion hybu sgiliau seiclo.

Mae鈥檙 disgyblion hefyd wedi cael mynediad at feiciau diolch i Cycle Power, , efo plant a鈥檜 teuluoedd yn cael eu hannog i ymuno ar deithiau penwythnos ar hyd L么n Las Menai.

Mae Ysgol Pendalar hefyd wedi gallu trefnu sesiynau cynnal wythnosol efo Beics Antur fel i ddisgyblion datblygu sgiliau yn ogystal 芒鈥檜 hannibyniaeth.

Share this page

Darllenwch am y newyddion diweddaraf o Gymru